Mae gan yr NCA gylch gwaith eang. Rydym yn mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig, yn cryfhau ein ffiniau, yn ymladd twyll a throseddau seiber ac yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth rywiol ac yn ceisio atal achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant. Mae ein gwaith yn unol â Strategaeth Troseddau Difrifol a Threfnedig y Llywodraeth.
Rydym yn darparu arweinyddiaeth yn y meysydd hyn drwy ein penaethiaid troseddau trefnedig, plismona ffiniau, troseddau economaidd a CEOP, yr Uned Troseddau Seiber Genedlaethol a thimau galluoedd arbenigol.
Mae’r NCA yn cydweithio’n agos â phartneriaid er mwyn sicrhau canlyniadau gweithredol. Mae gennym rôl ryngwladol er mwyn atal troseddau difrifol a threfnedig rhag effeithio ar y DU drwy ein rhwydwaith o swyddogion cyswllt rhyngwladol.