Cenhadaeth
Cenhadaeth yr NCA yw arwain brwydr y DU i leihau troseddau difrifol a threfnedig.
Gwerthoedd
Mae gennym gyfres o werthoedd ac ymddygiad yr ydym yn mynnu y mae’r holl swyddogion NCA yn eu dilyn wrth ystyried eu dyletswyddau:
- Hyblygrwydd – chwilio am welliannau parhaus i’r ffordd yr ydym yn gweithio, addasu er mwyn dod o hyd i atebion i broblemau anodd.
- Unplygrwydd – gweithredu gyda’r safonau uchaf o unplygrwydd a phroffesiynoldeb.
- Parch- trin pawb ag urddas a pharch, rhoi gwerth ar amrywiaeth, gweithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth ac arferion gorau.
- Gwasanaethu’r cyhoedd – bod yn falch o roi lles y cyhoedd wrth wraidd popeth y byddwn yn ei wneud.
- Tryloywder- bod yn onest, yn agored ac yn atebol am ein gweithredoedd.
Pwerau
Gall Swyddogion NCA fod ag un neu fwy o bwerau neu freintiau cwnstabl, pwerau swyddog tollau a phwerau swyddog mewnfudiad (gwarant driphlyg).
Atebolrwydd a Llywodraethu
Mae’r NCA yn adran anweinidogol o Lywodraeth Prydain. Mae’n cyhoeddi cynllun blynyddol sy’n nodi sut bydd yn bodloni ei flaenoriaethau strategol a gweithredol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ac adroddiad blynyddol sy’n crynhoi ei berfformiad yn erbyn y cynllun.
Mae gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol gyfrifoldeb annibynnol gyfrifoldeb am gyfarwyddyd a rheolaeth weithredol yr NCA. Mae’n atebol i’r Ysgrifennydd Cartref a’i Senedd am gyfrifoldeb yr asiantaeth.
Mae dogfen fframwaith yr NCA yn nodi trefniadau atebolrwydd, rheoli, gweithredol ac ariannol yr NCA ac yn egluro sut mae’r berthynas rhwng yr Ysgrifennydd Cartref a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gweithio.
Mae manylion am ddirprwyaeth swyddogaethau a gyflwynir ar Gyfarwyddwr Cyffredinol yr NCA gan Ddeddf Seneddol, Deddf Senedd yr Alban a Deddf Senedd Gogledd Iwerddon wedi’u hamlinellu yn y tabl lefelau dirprwyedig.
Craffu
Mae’r NCA yn destun craffu allanol ac annibynnol trwyadl gan gynnwys gan:
- Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, gweithio gyda chyrff archwilio eraill fel bo’n briodol.
- Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ar gyfer gweithgareddau yr ymgymerir â nhw yng Nghymru a Lloegr a Chomisiynydd Adolygu Ymchwiliadau’r Heddlu ar gyfer yr Alban.
- Swyddfa’r Comisiynwyr Gwyliadwriaeth, sy’n darparu trosolwg o’r defnydd o wyliadwriaeth gudd a ffynonellau gwybodaeth dynol cudd
- Comisiynydd Ymyrryd â Chyfathrebu, sy’n darparu trosolwg o’r defnydd o bwerau a chaffaeliad data cyfathrebu.
- Y Tribiwnlys Pwerau Ymchwilio sy’n gallu ymchwilio i gwynion gan y cyhoedd am y defnydd o bwerau ymyrryd.
Mae’r NCA hefyd yn destun craffu gan y Senedd, yn bennaf gan y Pwyllgor Materion Cartref, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gan Senedd Yr Alban.