Mae’r NCA wedi’i gynllunio i gael y gorau allan o holl adnoddau’r DU er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig.
Dim ond drwy gydweithio’n agos â’n partneriaid y gallwn wneud hyn.
Mae’r NCA yn ymateb i gyfres eang o fygythiadau gyda nifer ohonynt yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ar heddluoedd ac asiantaethau eraill hefyd.
Lle bydd trosedd yn gymhleth neu’n anymarferol i un heddlu neu asiantaeth fynd i’r afael ag ef, bydd yr NCA yn defnyddio ei ddylanwad a’i alluoedd arbenigol er mwyn sicrhau ei fod o fewn ein cyrraedd.
Mae partneriaethau’r NCA yn mynd tu hwnt i orfodi’r gyfraith. Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant preifat, llywodraeth leol a chenedlaethol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill, y sectorau elusennol a gwirfoddol, melinau trafod ac academia ymysg eraill.
Mae rhannu sgiliau, gwybodaeth, arbenigedd a thechnoleg yn ein galluogi ni i ddarparu’r ymateb gorau i gyfleoedd a bygythiadau.