Mae troseddau difrifol a threfnedig yn ffenomen byd-eang na ellir mynd i’r afael arno yn unigol. Mae’r NCA wedi datblygu partneriaethau aml-asiantaeth ledled yr heddlu, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, y sector cyhoeddus, diwydiannau preifat ac yn rhyngwladol er mwyn arwain, cefnogi a chydlynu ymateb y DU i amrywiaeth o wahanol fathau o fygythiadau.
Yn ogystal ag arwain gweithrediadau ein hunain, mae swyddogion NCA yn cefnogi ac yn cydlynu gweithgareddau gweithredol, yn darparu partneriaid ag amrywiaeth o alluoedd arbenigol sy’n helpu i ddarparu canlyniadau cyfiawnder troseddol, adfer asedau ac atal ac aflonyddu gweithgareddau troseddol.
Mae gan yr NCA hefyd y grym i gyfeirio prif swyddogion heddluoedd ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr i ymgymryd â thasgau gweithredol penodol er mwyn cynorthwyo’r NCA neu bartneriaid eraill.
Rydym yn gweithredu ledled y DU ac yn parchu datganoliad plismona yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.